Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 26 Mehefin 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10.33 - 12.23 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Paul Davies AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Don Peebles, CIPFA |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Sesiwn dystiolaeth 5
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Don Peebles, Pennaeth Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yr Alban, ynghylch yr ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol.
3.2 Cytunodd Don Peebles i anfon crynodeb ynghylch yr arferion gorau yn Seland Newydd a Virginia a hefyd i anfon nodyn ar y gwaith o sefydlu Trysorlys yr Alban.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Ystyriodd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'i ymchwiliad i arfer gorau mewn prosesau cyllidebol.
6 Swyddfa Archwilio Cymru: Caffael archwilwyr allanol
6.1 Disgrifiodd Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru, y dull o weithio y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gynnig o ran caffael archwilydd allanol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru.
6.2 Dywedodd y Pwyllgor wrth Swyddfa Archwilio Cymru y byddai'n trafod y dull hwnnw ac yn ysgrifennu at y Swyddfa gyda'i benderfyniad.
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Llythyr gan y Gweinidog Cyllid (18 Mehefin 2014)
7.1 Nododd yr Aelodau'r llythyr.